Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganadwy â hwynt. Er hynny, y mae'n fwy canadwy filwaith na'r Saesneg, ac am hynny y mae'n syn gan dramorwyr fel myfi glywed Cymry yn canu 'Elias' a'r 'Mesïa' yn Saesneg. Y mae gan y Saeson ryw reswm am ganu yn yr Italeg, ond nid oes gan Gymry ddim rheswm am ganu cymaint yn Saesneg. Yr wyf yn casglu bod y Cymry sydd heb wybod ieithoedd tramor, na thystiolaeth dysgedigion am ieithoedd, yn meddwl bod y Saesneg yn dlysach ac yn bereiddiach na'r Gymraeg! Gallit feddwl mai geiriau tlysion iawn yw Iacob (neu Siacob), Siôr, Siârl, Siôn, Sionyn, Siân, Mari, Cadi, Sara, Grâs—yn enwedig wrth eu bod mor debyg eu sain i enwau anwylaf y Cyfandirwyr; ond gwybydd fod y rhai hyn yn enwau gwrthun, gwahanglwyfus ym marn y Cymry, a hynny ymlaenaf am eu bod yn rhy Gymreigaidd; ac yn ail, am eu bod yn dlodaidd eu tarddiad. Gwell gan Gymry'r ffurfiau Seisnigaidd ac anfarddonol Dzhêcob, Tsharls, Dzhón, Dzhonni, Dzhên, Mêri, Cêt, Sêra, Grês! Dyry'r rhai mwyaf di-chwaeth ohonynt enwau mwy anghydgerdd fyth ar drefi, tai, a ffyrdd. Galwant Hewl y Bont (Rue du Pont) yn Bridge Street—dau air na fedr un o bob mil o Gymry na Saeson eu hynganu'n briodol heb ymatal yn hir rhyngddynt i dynnu eu tafod o'r drysni.

Na'th arweinied y gwiriondeb hwn i feddwl mai