Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dylanwad yn hyfryd ar bob dosbarth. Er nad ydyw'r achanu hwn, ond odid, yn ddim amgen na'r llith-ganu Eglwysig wedi ei drosglwyddo i bregethau Ymneilltuol, eto y mae'n gweddu'n dda i'r Gymraeg, gan fod ei geiriau hi'n goddef eu llusgo a'u nyddu'n fwy na geiriau ieithoedd eraill y Gogledd-Orllewin.

Er bod mwy o bellter rhwng Ymneilltuwyr Cymru a'r Eglwyswyr nag sydd rhwng Protestaniaid a Phabyddion rhannau o'r Cyfandir, eto y mae'r Ymneilltuwyr yn glynu'n dynn wrth amryw o ddefodau priodol yr Eglwys, ac yn mabwyso rhai eraill yn barhaus. Y maent mewn un neu ddau o bethau yn gor-Babyddu'r Pabyddion. Tybiasit ti, yn ddiau, y buasai'n ddigon gan Brotestaniaid trwyadl ymfoddloni ar un gwasanaeth crefyddol wrth gladdu corff marw; eithr gwybydd eu bod yn gyffredin yn darllen ac yn hirweddio wrth "godi'r corff," ac yn y capel, ac wrth y bedd, er bod y bedd yn fynych gerllaw'r capel. Nid ŷnt yn teimlo dim gwrthwynebrwydd at yr hen ddefod driphlyg hon, ond y mae gan rai ohonynt wrthwynebrwydd mawr i offrymu yn yr eglwys—gwrthwynebrwydd cydwybodol, meddant hwy. Hyfryd gan gybydd gael ei gydwybod yn foddlon i gadw'i bwrs.

Anffawd yr Eglwys yng Nghymru ydyw ei