Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI

LLYTHYR ARALL ALLTUD
(Na ddarllened neb hwn.—Y Cyf.)

O L——, YNG NGHYMRU,
y 9fed o Dachwedd, 1882.


FY ANNWYL DAD,

Dyma fi bellach yn anfon i Fflandrys y gweddill o'm sylwadau am Gymru, y Cymry, a'r Gymraeg.

Cyfeiriais at Fyddin Iachawdwriaeth. A glywaist ti sôn amdani? Defodwyr taeogaidd ydyw'r fyddin, yn rhyfela yn erbyn drygau ysbrydol ag arfau cnawdol, a hynny yn ôl rheolau cnawdol. Ni allasai'r cyfryw fyddin gyfodi ond mewn gwlad ag ynddi gymysgedd o anwybodaeth, o ffolineb, o afledneisrwydd, ac o ysbryd milwrol. Clywais fod adran ohoni newydd ymosod ar Baris. Beiddiaf broffwydo na lwydda'r cyfryw bobl ddim yno. Nid yw'r Ffrancod mor hogynaidd â'r Saeson; a pheth arall, ni wnaeth neb hyd yma nemor o dda nac o ddrwg yn Ffrainc oni byddai'n ddyn coeth. Cais yr aelodau ddychrynu'r diafol â ffyn a phedyll, a chanant i Grist fel pe canent i ymgeisydd seneddol.