Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Goffi Ffrainc! Fara'r Almaen! Sigarau'r Yswisdir! —Gwae chwi pan ddychwelwyf i'r Cyfandir.

Cred fy mod yn ymdrechu bob amser ac ymhob— man i fucheddu'n deilwng o'm tad ac o'm cenedl. Er fy mod mewn gwlad ddieithr y mae anrhydedd Fflandrys megis rhactal rhwng fy llygaid.

Derbyn, fy nhad, gofion cynhesaf dy annwyl fab,

EMRIJ VAN JAN.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 20, 1882.