rinwedd. . . Canys dygaf i, mi gredaf, dyst digonol mai'r gwir a ddywedaf, sef fy nhlodi.
Allan o Amddiffyniad Socrates, yn ôl Platon. Cyfieithiad y Prifathro D. Emrys Evans.
Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a'm gwaed fy hun.
CODIR y geiriau olaf uchod fel math o is-bennawd gan Emrys ap Iwan ei hun i gyfres o erthyglau a sgrifennodd i'r Geninen o 1890 i 1892. Y prif deitl oedd Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys, a'r unig rheswm pam na chynhwyswyd hwy yn y gyfrol hon yw eu bod yn hawdd eu cael ers rhai blynyddoedd bellach yng Nghyfres y Ford Gron. Oblegid hynny penderfynwyd eu hepgor er mwyn cael lle i eraill a gladdwyd mewn hen gylchgronau a newyddiaduron.
Byddai'r un pennawd yn taro o flaen y rhan fwyaf o draethodau Emrys, ac y mae'n arbennig felly am gynnwys y gyfrol hon. Nid oedd dameg y gacynen yn ddieithr iddo ychwaith, canys efô ei hun a drosodd i Gymraeg eiriau dewr ei hoff arwr, Paul-Louis Courier:—
Arnat ti y mae llefaru, ac arno yntau [sef gwas y gyfraith] y mae dangos trwy ei erlyniad wirionedd dy eiriau. Wrth ddeall a chefnogi'ch gilydd, yn ôl dull Socrat ac Anytos, gellwch droi'r byd.