Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am hanes bywyd Emrys nid oes angen yma fawr mwy na chyfeirio'r darllenydd at gofiant yr Athro T. Gwynn Jones. Yn unig am fod y llyfr hwnnw hytrach yn anodd ei gael erbyn hyn, y codaf y braslun byr isod o erthygl y Parch. L. E. Valentine yn y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn Heddiw:—

Ganed ef yn Abergele ym mis Mawrth 1851. Nid oedd yn Gymro o waed coch cyfan, ac un tro, fe edliwiodd hyn yn finiog i'w gydwladwyr. Cyfeirio [yr oedd] at ei hen nain oedd yn Ffrances o addysg dda a fu'n gwasanaethu yn yr Hen Wrych yn ymyl Abergele. Priododd hi â Jones y pengarddwr yno, ac aethant i fyw i bentref Llanddulas. Gor-ŵyr i'r pen-garddwr hwn oedd Emrys.

Ar ôl gadael yr ysgol bu mewn siopau dillad yn Lerpwl, ond ymhen y flwyddyn dychwelodd yn arddwr i Fodelwyddan. Yn ddeunaw oed, ar ôl dechrau pregethu aeth i Goleg y Bala a chafodd wŷr fel Puleston Jones, Iolo Caernarfon, a Griffith Ellis yn gydfyfyrwyr. Ar derfyn ei gwrs yno bu'n cadw ysgol yn y Rhuallt ac yn gofalu am eglwys Saesneg yng Nghaergwrle. Yna aeth ar y cyfandir i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg ac i hyfforddi mewn Saesneg yn Lausanne a Bonn a Giessen. Ordeiniwyd ef yn Sasiwn yr Wyddgrug yn 1883, a bu'n byw yn Ninbych, Rhuthyn, Trefnant, a Rhewl, ac yn y Rhewl y bu farw ym mis Ionawr 1906, a chladdwyd ef ym mynwent y capel.

Rhyfedd fel y gellir rhoi cyfrif am fywyd y