Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/175

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwywaith o wŷr ag oedd gan Dywysog Oranje, yr hwn oedd yn llywyddu cyn dyfod Wellington i'r maes. Pe buasai Ney wedi ymladd mor benderfynol yn erbyn yr ychydig ag y darfu iddo yn niwedd y dydd ymladd yn erbyn y llawer, ef a allasai fod wedi meddiannu Quatre Bras cyn i gymaint ag un Brytaniad gyrraedd y lle, ac wedi gallu cynorthwyo Napoleon i lwyr ddifetha'r Prwsiaid. Fe ddigwydd odd peth arall pur anffodus i'r Ffrancod ar y diwrnod hwn; yr oedd Napoleon yn ddoeth iawn wedi gosod y Cadlywydd D'Erlon gyda phum mil ar hugain o filwyr o'r tu ôl, megis trydydd troed stôl, yng nghyrraedd y ddwy fyddin Ffrengig, er mwyn iddi fod yn barod i gyfnerthu'r naill neu'r llall pan fyddai gwir angen am hynny. Wrth weled nad oedd Ney wedi dyfod i ymosod ar y Prwsiaid o'r tu cefn, fe ddanfonodd yr Ymherodr orchymyn i D'Erlon wneud hynny; ond cyn i hwn gyrraedd y Prwsiaid, ef a gafodd genadwri arall oddi wrth Ney yn dymuno'n daer arno ddyfod i'w gynorthwyo ef, am nad oedd ganddo mwyach prin ddeunaw mil o wŷr i ymladd yn erbyn deugain mil Wellington. Rhag ofn bod Ney mewn perygl, fe ymdeithiodd D'Erlon tua Quatre Bras, ond erbyn iddo gyrraedd yno yr oedd y nos wedi terfynu'r frwydr, a Ney wedi encilio i'r wersyllfa yr oedd o ynddi cyn dechrau