ymosod. Felly, fe fu pum mil ar hugain D'Erlon yn ymdeithio yn ôl ac ymlaen y prynhawn hwnnw heb danio un ergyd i gynorthwyo Ney na Napoleon. Pe buasai Ney wedi galw amdano ynghynt, neu wedi peidio â galw amdano pan oedd o ar fedr amgau'r Prwsiaid, fe fuasai goruchafiaeth Napoleon y diwrnod hwnnw yn llwyrach o lawer. Er hynny, ef a gwblhaodd ei amcan mewn rhan; canys ef a orchfygodd y Prwsiaid yn dost, ac er na lwyddodd Ney i orchfygu'r fyddin gyfunol yn Quatre Bras, fe lwyddodd yntau i'w rhwystro hi i gynorthwyo'r Prwsiaid. Yr oedd Wellington wedi addo bod yn Ligny erbyn pedwar o'r gloch, ond ni chafodd o gyrraedd yno o gwbl; a chan fod y Prwsiaid wedi eu cilgwthio o Ligny, fe fyddai Napoleon ei hun drannoeth ar dir i gilgwthio Wellington o Quatre Bras. Brwydr waedlyd iawn oedd brwydr Ligny; canys fe gollodd y Prwsiaid tuag ugain mil o wŷr, ac fe gollodd y Ffrancod ddeng mil. Tua chwe mil a gollodd Wellington yn Quatre Bras, ac ychydig dros bedair mil a gollodd Ney. Rhagoriaeth eu magnelwyr a'u marchogion a alluogodd y Ffrancod i beri cymaint o golled i'w gwrthwynebwyr.
Ar ôl brwydr Ligny fe ddychwelodd Napoleon i'w bencadlys yn glaf, ac a aeth i'w wely heb roi dim cyfarwyddiadau i'w swyddogion. Naw ar gloch