Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddent yn cilio yn ôl i ailymffurfio. Pan fyddai'r marchogion Ffrengig yn dyfod, fe fyddai magnelwyr Wellington yn ffoi i'r sgwariau, ac yna'n dychwelyd at y magnelau pan giliai'r marchogion. Pan fyddai gwŷr meirch Wellington yn rhuthro i lawr y bryn wrth eu pwysau, hwynt-hwy a fyddai drechaf; ond pan anturient fyned i'r gwaelod gwastad, neu hyd at y llechwedd cyferbyniol, gwŷr meirch Ffrainc a fyddai drechaf. Yn ystod un o'r ymgyrchoedd hyn fe laddwyd ac fe glwyfwyd dwy ran o dair o'r Scotiaid Llwydion mewn ychydig funudau; ac o'r pum mil o wŷr traed a arweiniodd Picton yn erbyn y Ffrancod ni ddychwelodd deunaw cant. Collodd cannoedd o feirch a marchogion Ffrengig hefyd eu hoedl trwy gwympo bendramwnwgl i'r ffordd ddofn y soniwyd amdani—ffordd oedd bron yn anweladwy hyd oni ddelai dyn i'w hymyl; ac ar ôl i hon mewn ambell fan ymlenwi â chelaneddau briwedig y gallodd y marchogion byw fyned drosti i ben y bryn yr oedd byddin Wellington yn sefyll arno.

Dywed rhai rhai sgrifenwyr milwrol y dylasai Napoleon, pan welodd y Prwsiaid tuag un ar gloch yn dyfod yn ei erbyn, encilio, ac ymladd y frwydr ar dir mwy manteisiol iddo'i hun, dyweder yn Genappe; ond gan ei fod yn ymherodr yn gystal