Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/202

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgeisydd seneddol yn wladgarwr, nid ymofynnant hwy, ac ni faliant chwaith, pa un ai Pabydd ai Protestaniad fyddo. Dywedant wrtho yn hytrach:

". . . Irish-born man,
If you're to Ireland true,
We heed not blood, nor creed, nor clan,
We've hands and hearts for you.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 22, 1880.

Pe baem yn fwy tyner wrth adar newynog, ac yn fwy llym wrth ormeswyr cyfoethog, byddem yn llawer tebycach i'r dyn Crist Iesu nag yr ydym.

*

Y mae'n rhyfedd fod yr holl adar hyn yn aros yma tros y flwyddyn, a ninnau mor ddiofal amdanynt. Paham, lwyd-y-gwrych, a chennyt tithau ddwy aden, na theithit i ganlyn yr haf o amgylch y ddaear? Os yw'n well gennyt aros yn dy unfan, paham nad ymsefydli mewn rhyw ddinas Fahometanaidd, lle y bydd dy fwyd a'th fywyd yn sicr? Fe allai fod yn rhy anodd gennyt ganu'n iach am byth i Gymru; os felly, ymwêl â hi yn nechrau haf, pan fyddo'i hwyneb yn las fel yr wybr, a phan ymddangoso'r rhos a'r gwyddfid a'r briallu megis cynifer o sêr wedi eu hau ar hyd-ddo. O! y mae Cymru yn dlos yn yr haf; ond gwyddost, aderyn,