Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/209

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwystfileiddrwydd diarhebol y werin Seisnig. Metha gan rai ddeall i ba beth y mae anffyddwyr dda, ond pe bai'r byd hebddynt hwy pwy a geid i gyhoeddi egwyddorion teyrnas nefoedd pan ryngo bodd i weinyddiaeth Plaid Heddwch, Cynildeb a Diwygiad yrru'r gorchymyn hwn i'r pencadlys: "Cyfoded yn awr y llanciau a chwaraeant ger ein bronnau ni"? Nid dysgawdwyr yr Ymneilltuwyr, bid sicr, canys nid i gondemnio rhyfeloedd anghyfiawn y galwyd hwy, ond i gondemnio rhyfeloedd Torïaid, megis Beaconsfield a Salisbury. Gwell gan lawer ohonynt hwy logellu eu tipyn Cristnogaeth na rhoi achos i neb eu cyhuddo o fod yn anffyddlon (yn disloyal, chwedl ein Presbyteriaid) i'r blaid wleidyddol a enillodd iddynt yr hawl ogoneddus i weddïo'n waelach na chlerigwyr wrth fedd corff marw.

***

[Ar ôl codi rhai paragraffau o'r cylchgronau Saesneg Truth a'r Cambridge Press, lle y mae anffyddwyr amlwg yn traethu eu barn yn ddi- floesgni ar y rhyfel yn yr Aifft a'r Swdân, diwedda Emrys ei lythyr â'r paragraff isod. —D.M.L.]

Ond yr wyf i'n gobeithio ymhellach y gallant