gwneud pethau terfysglyd iawn. Go ddiog ydyw Paddy, rhaid addef; ond yr oedd yn hawdd iddo, a'i wely yn galed, a'i gylla yn wag, ddeffroi yn fore y diwrnod hwnnw; a chyn codi ohono, aeth i ystyried gymaint esmwythach oedd gwely moch Mr. Bully na'i wely ef; gymaint gwell oedd bwyd helgwn Mr. Bully na'i fwyd ef; a chymaint mwy cysurus oedd ystabl helfeirch Mr. Bully na'r twlc clai y llechai ef ynddo.
Dymunasai Paddy fod yn gi, pe gwybuasai fod modd perchenogi cynffon heb gynffonna. Dymunasai fod yn geffyl, oni buasai fod arno ofn i Mr. Bully farchogaeth arno; ie, dymunasai fod yn fochyn, oni buasai iddo glywed bod y great beefeater weithiau yn bwyta bacon. Ond penderfynu aros yn ddyn, a mynnu hawliau dyn, a wnaeth Paddy. Cerddodd yn eon at balas Mr. Bully, a chan sefyll o flaen ffenestr agored y ddawnsfa, ef a lefodd, gan ddywedyd:—
"Hai, flaidd gwlanog, rhowch heibio lamsach, a gwrandewch ar fy nghŵyn; canys mynnaf ei thraethu, cyfarthed eich cynffongwn, a rhythed eich clepgwn gymaint ag a fynnont. Twt, twt! ni waeth ich' na heb fyned i ddangos gwyn eich llygaid, ac i droi eu canhwyllau hwynt tua'r nef. Gŵyr y nef o'r gorau eich bod chwi yn euog o