aflwyddiannus na thydi, ond erys cylch o oleuni disgleiriach ar dy aflwyddiant di nag ar lwyddiant eraill. Ni bu i'r gorthrymedig erioed amddiffynnydd mwy dihunangar, mwy hawddgar, a mwy huawdl. Ond dy garcharu a'th grogi a wnaeth yr Herod hwn, a thorri dy ben ar ôl hynny. Fe'th fagwyd yn rhy dyner i orwedd mewn daeardy; yr oedd dy waed yn rhy bur i'w leipio gan y cŵn. Cywilydd oedd anurddo corff mor hardd; gresyn oedd torri ymaith fywyd mor ieuanc. Merthyr, ac nid bradwr, y'th elwir ymhobman oddieithr yn Anglestay. Am hynny, cwsg mewn heddwch, Emmet, fy mab.
BULLY: Os wyt yn methu â deall paham yr wyf yn llethu gwrthryfelgarwch yn fy nhiriogaeth fy hun, ac yn ei feithrin yn nhiriogaethau rhai eraill, myfyria ar y wireb hon:—" Circumstances alter cases." Exit.
TAFFY: Oio! Rhaid i mi geisio cofio'r rheswm yna. Dichon y bydd o mor gyfleus ac angenrheidiol i mi ag i Mr. Bully. Gwna hwnna'r tro yn gaead ar geg pob gwrthwynebwr. Ni fedraf gysoni fy holl ymddygiadau â'i gilydd, ond medraf gyfiawnhau pob un ohonynt yn wyneb y gwirionedd hwn—"Circumstances alter . . . Circum—. . ." Exit Taffi.
ALLAN O'R Faner, EBRILL 21, 1880.