cystadlydd ychydig o hanesynnau i gadarnhau'r gwirionedd uchod. Cymered yr hanesyn hwn fel cynllun:—Aeth gŵr a gwraig uniaith o Loegr i Ffrainc. Gan nad " arweinid hwy'n bersonol" gan Gaze na Cook, bu raid i'r gŵr ofyn rhyw gwestiwn i un o'r fforddolion brodorol, a chan i hwnnw ei ateb mewn iaith farbaraidd (cofier mai iaith farbaraidd y geilw'r Sais bob iaith na ŵyr ef mohoni), gan i hwnnw, meddaf, ei ateb mewn iaith farbaraidd, trodd y Sais uniaith at ei wraig a dywedodd gyda theimlad a gyfansoddid o dosturi, o syndod ac o ddigofaint, Gracious me! this fellow is as ignorant as Plato—he doesn't know a word of English!
Ac nid yn y llysoedd cyfreithiol yn unig y mae'r Gymraeg yn anfanteisiol, ond y mae felly hefyd yn y cynghorau plwyfol a threfol, ac addysgol ac iechydol a gedwir yng Nghymru. Bydd un ddau o aelodau'r cynghorau hyn yn Saeson, o ran iaith os nad o ran cenedl hefyd, ac nid peth hawdd i Gymry â llonaid eu pen o Gymraeg ydyw tynnu allan ohonynt eu hunain ddigon o ymadroddion Saesneg i ymddadlau â Saeson yn yr iaith Saesneg. Nid gwiw fyddai i bob aelod lefaru yn ei iaith ei hun fel y gwneir mewn un senedd ar y Cyfandir, ac fel y gwneir mewn amryw o gynghorau taleithiol yno, gan nad yw'r Saeson yn deall Cymraeg. Nid