gweddaidd 'chwaith fyddai gosod anghenraid ar Sais i ddysgu Cymraeg neu fyned ynghylch ei helynt. Gan hynny, rhaid i bob Cymro "diragfarn" ac "unclannish" wybod mai'r peth gorau fyddai i ryw ddwsin o Gymry wneud ffyliaid ohonynt eu hunain er mwyn dangos eu parch i un Sais. Dangosed y cystadlydd na ddichon y Cymry eu parchu eu hunain heb fod yn euog o amharchu'r Saeson, ac na ddichon iddynt wneuthur tegwch â hwy eu hunain heb wneuthur cam â'u harglwyddi. Myneged ei alar hefyd oherwydd bod cynifer o Gymry mor rhyddfrydig i ddygymod ag iau caethiwed, ac yn ddiwethaf oll, cusaned ei gadwyni trwy gydganu â'r arglwyddi "God save our gracious Queen."
2.—Pa un ai mantais ai anfantais yw'r Saesneg i'r Saeson?
Profer, os mynner, mai mantais ydyw iddynt; ond os dewisir profi mai anfantais ydyw, dyweder na ddichon un Sais deithio trwy'r byd ei hunan, ac na ddichon gael unrhyw swydd enillfawr ac anrhydeddus mewn gwledydd tramor dan y llywodraeth hon na than ryw lywodraeth arall heb wybod y Ffrangeg. Gan na ddichon pen bychan gynnwys dwy iaith, profer y byddai'n rhesymolach i'r Saeson ymwrthod â'r Saesneg, ac ymfoddloni ar yr iaith fwyaf manteisiol yn unig, sef, y Ffrangeg. Noder