gysur; er bod gan y Saeson lawer gŵr grymus, un cawr sydd ganddynt, ac y mae hwnnw wedi marw er y flwyddyn 1616. Os nad oes gennym un Shakes— peare, y mae gennym iaith odidog, ac emynau ac alawon heb eu bath; ac os meithrinwn ein hiaith, odid na fydd yfory'r Cymry cyn deced â doe'r Saeson.
Y Cymro Cymreig yn rhagfarnllyd! Nac ydyw, yn wir. Fe fyddai agos cyn chwithed ganddo weled Saeson Lloegr yn anghofio eu hiaith eu hunain er mwyn myned yn Gymry uniaith ag yw ganddo weled Cymry Cymru yn anghofio eu Cymraeg er mwyn myned yn Saeson uniaith. Dyma'r cwbl Y mae o'n dadlau drosto, sef y dylai'r Cymry fod cyn ddysgediced ddwywaith o leiaf â Saeson cyffredin.
A ydyw'r Cymro Cymreig yn gulfarn wrth haeru y dylai'r Saeson yng Nghymru ymostwng i'r unrhyw amodau ag y mae'n rhaid i Gymry ymostwng iddynt yn Lloegr? Yn Lloegr y mae'n rhaid i Gymro ddysgu iaith y wlad cyn y rhoddir iddo un swydd gyhoeddus na swydd hyd yn oed fel gweithiwr ar un o'r ffyrdd haearn. Paham yr ydym ni'n goddef i Saeson uniaith gael pob rhyw swydd yng Nghymru, ac felly yn eu denu yma i heidio i'n gwlad? Ai am ein bod yn fwy haelfrydig, ai ynteu am ein bod yn ffolach na chenhedloedd eraill? Er