yn llai Seisnigaidd na'r hen blaid Chwigaidd. Y mae eraill ohonynt yn parhau'n aelodau o'r blaid Chwigaidd am eu bod yn ofni bod swyddogion Cymru Fydd yn chwanocach i farchogaeth ar y teimlad Cymreig nag i'w fagu. Y mae nifer nid bychan o Gymry Cymreig yn Dorïaid, am eu bod yn credu y gall dyn fod yn Gymro da, beth bynnag fyddo'i syniadau am Fasnach Deg, am Iawn i Dafarnwyr, am Ynadon di-arian a di-ddysg, ac am y pwnc pitw pa un ai o lyfr ai yn syth o'r safn y gellir yn orau wenieithio i "enaid ein hannwyl frawd a ymadawodd o'r byd." Y mae llawer o'r Cymry Cymreig yn ymgadw ymhell oddi wrth bob plaid wleidyddol a'r sydd yn awr yn y maes, am eu bod yn barnu nad yw dynionach sydd yn ddiofal am eu braint bennaf ddim yn haeddu cael breintiau llai. Y mae byw ar gawl yn fyw rhy dda o lawer i'r sawl a ddiystyro'u genedigaeth-fraint.
*****
Un arwyddair, sef "Cymru Gyfan," sydd gan y Cymro Fydd; ond y mae gan y Cymro Cymreig dri arwyddair, sef "Cymru Rydd, Cymru Gyfan, a Chymru Gymreig." Canys, heb fod yn Gymru Gymreig, Cymru mewn enw yn unig fydd hi. Y mae'r Cymro Fydd yn gwawdio'r waedd "Cymru i'r Cymry," ac yn ceisio boddhau'r Saeson heb lwyr
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/63
Prawfddarllenwyd y dudalen hon