anfoddhau'r Cymry trwy weiddi "Lloegr i'r Lloegrwys, a Chymru i'r Cymry ac i'r Saeson." Hyd yn oed pan fydd y Cymro Fydd yn gweiddi 'Cymru Gyfan," nid yw'n hawdd deall beth y mae o'n ei feddwl; ond yng ngenau'r Cymro Cymreig y mae'r ymadrodd yn gwbl ddiamwys, ac yn arwyddocáu: Cymry hyd at ei hen derfynau, sef Cymru hyd at Hafren.
Fe ŵyr y darllenydd bellach pa beth yw teimlad a pha beth yw credo'r Cymry Cymreig; ac fe eddyf eu bod yn ddosbarth cryf o ran nifer, ac y byddant yn gryf o ran dylanwad hefyd, ar ôl eu cyfuno'n blaid. Mewn gwirionedd, dwy blaid wleidyddol a ddylai fod yng Nghymru hyd oni chaffo hi ei hawliau cenhedlig, sef Plaid Gymreig a Phlaid Wrth-Gymreig, a gwneuthur y blaid olaf yn wannach wannach a ddylai fod ein hymgais pennaf. Peth plentynnaidd a gwaeth na phlentynnaidd yw inni ddynwared y Saeson trwy ymrannu yn Dorïaid "Duw a'n cadwo," ac yn Dorïaid Gafr a'u 'sgubo," yn Chwigiaid Dofion (Liberals) ac yn Chwigiaid Gwylltion (Radicals), yn Bleidwyr Athrawiaeth yr Iawn (Compensationists), ac yn Bleidwyr Barn Ddidrugaredd (Anti-Compensationists), cyn penderfynu'r pwnc pwysig pa un ai'r Cymry ai'r Saeson sydd i gael eu ffordd yng