ddim i'w gynnig i'r Cymry fel cenedl heblaw dadsefydliad yr Eglwys, ac y mae hwnnw, arno ei hun, yn hytrach yn bwnc sectol nag yn bwnc cenhedlig; o leiaf, y mae'n anodd dangos i'r cyffredin ei fod yn ddim amgen na hynny. Fel hyn y mae'r cyffredin yn ymresymu: "Pa beth a all fod yn cynhyrfu'r Ymneilltuwyr gwleidyddol i alw'r sect sefydledig yn 'Estrones,' ac yn Eglwys Seisnig yng Nghymru'— ai cariad at eu cenedl neu at eu hiaith? Nage'n ddiau, canys y maent hwy eu hunain yn llenwi'r wlad ag estronesi Seisnig, a thrwy hynny yn dangos nad gwaeth i Gymro addoli yn iaith ei orchfygwyr nag yn iaith Llywelyn. Yr ydym yn methu â gweled bod Eglwys Loegr yn gwneud cymaint i Seisnigo Cymru ag eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr. Fel rheol, y mae ynddi hi un gwasanaeth Cymraeg bob Sul, ond yn eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr ni cheir clywed un gair o Gymraeg. O'r ddau, yr ydym yn meddwl y byddai Cymro yn llai o fradwr wrth fyned i eglwys hanner Saesneg nag wrth fyned i gapeli hollol Saesneg. Os o wladgarwch y maent yn chwenychu dadsefydlu Eglwys Loegr, dadsefydlant eu heglwysi Lloegraidd eu hunain i ddechrau. Peidiant â chyfrannu arian tuag at godi a chynnal y cyfryw 'eglwysi,' a bwriant allan o'r Senedd ac o'r cynghorau bob cynrychiolwr sydd trwy eiriau
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/68
Prawfddarllenwyd y dudalen hon