bendigedig oedd Wellington pan gynorthwyodd o Bülow a Blütcher i orchfygu Napoleon yn agos Waterloo; ond damned Irish traitor" oedd o pan bleidiodd o fesur yn Nhŷ'r Arglwyddi i ddwyn ymwared i'r Pabyddion.
Nid yw ddrwg gennyf ddarfod dryllio'r gorsen Seisnig yr oedd Chwigiaid Cymru'n pwyso mor hyderus arni. Fe ellir disgwyl y byddwn bellach yn fwy o Gymry ac yn fwy o Geltiaid, ac fe argyhoeddir pob gwleidydd o gyfreithiwr mai ofer fydd iddo mwyach lefaru a gweithredu â'i lygad yn wastadol ar y sach wlân yn Nhŷ'r Arglwyddi. Heblaw hynny, fe geir yn ystod teyrnasiad y Torïaid ddigon o amser i ddysgu'r Cymry i chwenychu ac i geisio'r un peth ag y mae'r Gwyddelod yn ei geisio. Canys oni chawn Ymreolaeth ar yr un pryd â'r Gwyddelod, byddwn yn rhy weinion i gael Ymreolaeth byth. Am fy mod yn Ymreolwr cywir a chyson, yr wyf yn parhau i lefain, er gwaethaf gwawd Saeson arglwyddaidd a Chymry gwasaidd: Cymru i'r Cymry; Lloegr i'r Saeson; yr Alban i'r Albaniaid; Iwerddon i'r Gwyddelod! Yr eiddo'r Cymro i'r Cymro, a'r eiddo'r estron i'r estron!—Yn enw rheswm, pa beth sy decach? {{c|EMRYS AP IWAN.
ALLAN O'R Geninen, 1895.