meddu, na chwaith gondemnio ond yr ychydig feiau hynny y digwyddo'r gŵr mawr fod yn lân oddi wrthynt. Hwyrach yr ymwrola un o'r diaconiaid weithiau, ac y dywed wrth y mawr: "Mr. Dives, y mae'n rhaid i ni osod rhyw gerydd ar Ismael Tip. Meddwdod, ac ymladd yn y ffair." "Ai e," medd Mr. Dives, "dyma'r hyn a wnewch chwi: cerydd— wch ef yn dost am ymladd, ond na soniwch air am y meddwi. Byddwch dyner wrth Absalom er fy mwyn i." Anturia'r diacon ddweud ymhellach, Meddwodd dyn arall, Mr. Dives, ac er na bu'n ymladd fel y llall, fe ddywedir iddo ei warthruddo'i hun gymaint ag yntau." Edrychodd Mr. Dives yn syn—ac ymhen ennyd, dywedodd, "Dyma'r achos mwyaf dyrys a glywais erioed! Oni ellwch chwi edrych heibio iddo?" "Na allwn, yn wir," ebe'r diacon dewr, "canys y mae'r troseddwr ei hun yn disgwyl cerydd." "Gwna hynyna'r achos yn fwy dyrys fyth," ebe Mr. Dives. Ond toc, chwanegodd, "Os oes raid ei geryddu, ceryddwch ef am ei ynfyd— rwydd yn meddwi'r dydd, yn lle meddwi'r nos," mewn dull boneddigaidd," a chyn rhoddi cwlwm ar ei araith, "cynghorwch y tlodion i fod yn fwy cyfrwys a gwyliadwrus wrth bechu, gan gofio bod yr heddgeidwaid â'u llygaid arnom ymhobman." Er mwyn bod yn fanwl, dylwn ddweud ddarfod i'r
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/80
Prawfddarllenwyd y dudalen hon