gŵr mawr guddio'i drwyn yn ei gadach pan gododd y diacon i lefaru wrth y meddwon.
Rhag i chwi, Mr. Gol., feddwl fy mod yn llai enwog am fy nhegwch nag am fy nghallineb, dymunaf gyhoeddi bod amryw fasnachwyr, etc., yn dywedyd mai dyn iawn yw Mr. Dives. Er enghraifft, bûm heddiw gyda'r eilliwr, ac fel yr oeddwn dan ei ddwylo, dechreuodd ddywedyd ohono ei hun amled a disgleiried oedd rhinweddau Mr. Dives. Cyn gynted ag y sychodd y sebon oddi ar fy ngenau, gofynnais iddo," A yw Mr. Dives wedi cael tro?' "Tro," meddai yntau, "beth ydych yn ei feddwl?" "Wel," meddwn innau, "ei gablu fyddech chwi y troeon yr oeddwn yma o'r blaen." Troes yntau'r ymddiddan trwy ofyn "Oil, or Pomade, Mr. Trevethick?" Prin yr euthum dros y rhiniog na chlywn i ddweud bod Mr. Clipper newydd gael y gwaith o eillio Mr. Dives a'i feibion.
Wrth ddychwelyd adref, trois i ystordy gwin a gwirod Katch & Co., i brynu dwy botelaid o rum. Ar ôl cyfarch gwell i'm cydgrefyddwyr a ddig— wyddai fod yno, gofynnais i Mr. Katch pa lwydd oedd ar ei fasnach. "Eithaf gwael a fuasai arnaf i," meddai, "onibai am patronage Mr. Dives a Mr. Fast. Fe wyddoch chwi beth, Mr. Trevethick, Mr. Dives yw'r cwsmer gorau a fu gennym erioed. Os