Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na aiff e i'r nefoedd, nid aiff neb yno. Gresyn ei fod yn ddiotwr mor yswil—rhaid i ni anfon yr holl farilau mewn orange boxes; ond y mae gan bob dyn ei wendid, meddai. Dichon y daw'n wrolach yn y man."

Y mae amryw fasnachwyr eraill hefyd yn arfer siarad yn uchel iawn am Mr. Dives, wrth ddieithriaid, a chyfeillion go dafodrydd fel myfi; ond dywedir eu bod hwythau'n siarad yn wahanol amdano wrth gyfeillion sy'n medru cadw cyfrinach.

Cofia, ddarllenydd, nad dyn arbennig ydyw Mr. Dives ond dyn dosbarth. Cefais un aelod ohono yma, ac aelodau eraill acw, a thraw—a'r cwbl a wneuthum oedd eu casglu ynghyd, a gwneuthur ohonynt un corff. Os taera dy gydwybod ddarfod i'th lygaid ei weled ef yn gyfan ryw dro, yn sicr nid arnaf i y bydd y bai. Os digwydd i ti, wrth gribo dy wallt o flaen y drych, ganfod Mr. D. yn sefyll ger dy fron, gelli ei ddychrynu ymaith yn hawdd trwy ddywedyd, "Rhaid i mi un ai peidio â phechu, neu beidio â blaenori."

Rhaid yw gadael y llo Seisnig hyd dro arall.

Yr eiddoch yn hynaws,

IWAN TREVETHICK.

ALLAN O'R Faner, MAWRTH 21, 1877.