yna, syr, un sain, syr, na cheir hi yn ieithoedd y Cyfandir, syr." "Beth yw ieithoedd y Cyfandir i mi? Sais wyf fi, a gŵr bonheddig hefyd. Dyma chwi: os na roddwch enw mwy Cristnogol ar y dref acw erbyn y deuaf yma nesaf, myn einioes—." "O! na enynned llid fy arglwydd Sais yn erbyn ei was, ac na reged ef yn ddirfawr. Ein tadau dwl a alwodd y dref ar yr enw yna. Atolwg, pa seiniau sydd yn peri tramgwydd i'm harglwydd, fel yr alltudiom hwynt. Ein hyfrydwch mwyaf ni'r Cymry fydd gwneud pob enw mor esmwyth ag sydd bosibl i gegau bendigedig Saeson." "Gwnewch hynny ar frys ynteu," ebe'r Sais, ac na roddwch achos i mi i fyned i drafferth i'ch rhegi'r tro nesaf."
Y mae'r Saeson wedi dyfod i wybod erbyn hyn na raid iddynt hwy ddim ymostwng i gyfaddasu eu genau at enwau Cymraeg gan fod y Cymry mor rasol â chyfaddasu'r enwau at eu genau hwy, ac mor ymostyngar hefyd fel ag i seinio pob enw—nid fel y dylid ei seinio, ond fel y camseinir ef gan y Saeson.—Clywais rywbeth ar wedd pregethwr yn gofyn am docyn i fyned i Penmenmore. O! fel yr oeddwn yn ei ddiystyru! Tebyg yw y buaswn wedi ei ffonodio i bwrpas onibai i'm cydymaith fy nyhuddo. Meddai wrthyf, a roddwch chwi achos i'r bachgennyn gwirionffol yna i ffrostio ei fod wedi ei gosbi gan Iwan