ganddynt wynt at y Methodistiaid, gwneir brys i godi English Presbyterian Church iddynt, ac i gael English Presbyterian pastor arnynt. Addewir swydd anrhydeddus hefyd, i bob Trefnydd Calfinaidd Cymreig a elo yno atynt. Penodir un yn gyhoeddwr, un arall yn ddrysor, un arall yn arweinydd y canu, un arall i chwarae offeryn cerdd, ac un arall yn master of the ceremonies. Delir o flaen eraill y gobaith o gael eu gwneud yn flaenoriaid—lay elders, a siarad yn fanwl. Cysurir y lleill â'r ffaith ei bod yn llawer haws iddynt gysgu o dan bregethwr na ddeallant nag o dan bregethwr a ddeallant. Trwy nerth y cymhellion hyn, ac eraill o gyffelyb natur, llwyddir i gael cynulleidfa led gryno. Ond cyn pen hir y mae'r swyddau'n myned yn ddiwerth yn eu golwg, y Saeson yn diflannu, newydd-deb y peth yn colli, a'r bobl yn blino ac yn graddol ymwasgaru. Ond gan fod arnynt ormod o gywilydd i ddychwelyd at y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig, y maent yn myned at yr enwad Sefydledig, neu ynteu yn peidio â myned i un lle i addoli. Wrth fynegi bod yr achosion Seisnig mewn lleoedd Cymreig wedi bod yn achos i lawer golli eu tipyn crefydd, nid wyf ond yn dywedyd "geiriau gwirionedd a sobrwydd."
Dichon dy fod di, ddarllenydd, er gwaethaf y teimlad o dosturi, yn methu peidio â gwenu o glust