i glust wrth ddarllen yr ymadroddion uchod. Nid i mi y mae'r clod, ac nid arnaf i y mae'r bai dy fod yn gwenu. Addefaf yn rhwydd nad oes gennyf i ddim dawn i wneuthur pethau cyffredin yn anghyffredin. Dywed disgyblion Lavater nad wyf i ddim yn enwog am fy ngallu disgrifiadol. Ni allaf i wneud mwy na nodi pethau yn union fel y maent. Gan hynny, os bydd i'r mynegiad syml hwn o ffeithiau perthynol i'r achosion Seisnig beri rhyw gymaint o ddifyrrwch i ti, dod y gogoniant nid i mi ond i sefydlwyr a chefnogwyr yr Anglo-Welsh Presbyterian Churches.
Ond dywedir wrthym gan y rhai a fynnai gael eu tybied yn broffwydi, "y mae'r iaith Gymraeg yn myned i farw." Felly. Darfyddai am bob iaith ar wyneb y ddaear pe bai pawb fel chwi. Pe trinid chwi fel yr ydych chwi yn trin y Gymraeg, trengai pob copa ohonoch cyn Calanmai. Pe gomeddai eich cyfeillion i chwi ymborth, pe tyngai mil o ynfydion fod argoelion marwolaeth yn eich gwedd, pe dygid eich arch i'ch ystafell, a phe cenid eich cnul yn hirllaes, pa sawl un ohonoch a fyddai byw i ddarllen llythyr nesaf Iwan Trevethick? Er bod fy syniad i amdanoch yr hyn yw, eto, yn gymaint â bod eich nifer mor lliosog, rhaid i mi gydnabod bod eich gallu i wneuthur niwed yn fawr. Gan hynny, os parhau a wnewch i gydfwriadu â'r Saeson yn erbyn bywyd y