Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunain. Y mae digon ohonynt eisoes yn bwyta braster y wlad hon heb i neb ei gwneud hi mor gysurus iddynt fel ag i ddenu chwaneg ohonynt yma. Dysgwch eu hiaith hwynt, ond nid er mwyn hepgor iddynt hwy'r drafferth i ddysgu eich iaith chwi. Dangoswch iddynt fod gennych iaith gwerth ei dysgu, ac iaith y mae'n rhaid iddynt ei dysgu cyn cael mwynhau eich rhagorfreintiau crefyddol, ac oni bydd eu hathrawon yn anfedrus iawn, a hwythau'n fwy pendew nag y tybiaf eu bod, gallant cyn pen blwyddyn ddeall a darllen Cymraeg yn rhwydd.

Ond y mae hyn oll yn impracticable, meddai'r gwŷr bach Seisgar. Tebygaf fod popeth yn impracticable i chwi ond llyfu traed y Saeson.

Pe buaswn yn Gymro o waed coch cyfan fel un ohonoch chwi, hwyrach y gallaswn gyd-ddwyn â'ch gwaseidd-dra; ond tra bo gwaed cenedl fwy annibynnol yn rhedeg yn fy ngwythiennau, ni allaf ond ystyried eich gwaseidd-dra yn ffieiddbeth, a chwithau yn ddirmygedig.

Yr eiddoch, &c.,

IWAN TERVETHICK (sic.)

ALLAN O'R Faner, EBRILL 11, 1877.