Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywsai gan Phylip beth oedd hyd, a lled, a dyfnder y llyn y bedyddiwyd yr eunuch ynddo; hefyd, a oedd gan geidwad y carchar blant bychain.

5. Oddi Wrth y Calfiniaid.—Gofynasant i Paul sut y bu i un fel ef, a gafodd ysgol dda, arfer ymadroddion mor amwys a llac yn ei lythyrau. Nid oeddynt heb gredu ei fod yn Galfiniad o'r iawn ryw, ond yr oedd wedi ysgrifennu rhai ymadroddion â gwedd Arminaidd arnynt. Credent pe cymerasai amser i ysgrifennu yn fwy manwl a chyson na buasai'r un Arminiad yn byw heddiw.

6. Oddi Wrth yr Arminiaid.—Nid oeddynt yn hoffi gwenieithio i neb, ond ni allent ymatal rhag tystio wrtho eu bod yn edrych arno fel un o ddisgyblion galluocaf Arminius. Bron na ddywedent ei fod yn ail i Iago ei hun. Er hynny, yr oedd yn ofidus ganddynt weled yn ei lythyrau rai geiriau a brawddegau â thuedd ynddynt i fagu Calfiniaeth. Dymunent wybod pa un ai i frys Paul, ai i ddichell rhyw adysgrifiwr yr oeddynt i briodoli'r brychau hyn.

7. Oddi Wrth y 'Sais-addolwyr.—Deisyfent gael gwybod gan Paul pa un yw'r ddyletswydd fwyaf Cristiolus, ai ceisio troi'r Cymry dwyieithog yn Saeson uniaith, ynteu pregethu'r Efengyl iddynt yn iaith eu mam.