Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ieuanc, ac, os rhaid dweud y gwir i gyd, yn rhy gulfarn ac yn rhy genfigenllyd, i gynhyrchu llawer o lenyddion hirhoedlog. I gynhyrchu llenyddiaeth a gydnabyddir yn llenyddiaeth gan yr holl genedl rhaid iddynt anghofio, dros y pryd, eu bod yn perthyn i'r cyfundeb hwn neu'r cyfundeb arall, a chofio'n unig mai dynion ydynt; neu, o leiaf, mai Cymry ydynt. Ac arfer y gair "llenyddiaeth" yn ei ystyr manylaf, nid oes y fath beth â llenyddiaeth gyfundebol yn bod. Rhaid i lenyddiaeth wirioneddol fod yn genhedlig; neu, os mynnwch air hwy ac anghywirach, yn genedlaethol. Fe fu gennym ni'r Methodistiaid dri, os nad pedwar, o lenorion, sydd ac a fyddant yn ddynion cenedl; ac am un ohonynt, sef Williams o Bant-y-celyn, fe ellir ei osod ef ar yr un tir ag Aneirin Gwawdrydd a Dafydd ap Gwilym, os nad yn wir yn uwch na hwynt. Ond nid am ei fod ef a'r lleill yn Fethodistiaid Calfinaidd, eithr am eu bod yn fwy na Methodistiaid yr aeth eu gwaith yn eiddo cyffredin i'r holl genedl. Gan ei bod yn deg imi gredu bod y rhan fwyaf ohonoch chwi wedi darllen mwy neu lai ar weithoedd Williams o Bant-y-celyn a Dr. Lewis Edwards, sôn a wnaf i am brif lyfrau gwŷr o Gymry nad oeddynt yn Fethodistiaid; am fy