mod yn ofni bod y rheini yn fwy anhysbys i lawer ohonom nag y dylent fod.
Ysywaeth, cyfieithiadau ydyw'r rhan fwyaf o'r llyfrau crefyddol a gyhoeddwyd ar ôl y Diwygiad Protestannaidd; ond y mae rhai ohonynt yn gyfieithiadau mor ystwyth a Chymreigaidd fel y maent mor ddarllenadwy â llyfrau gwreiddiol; a chan eu bod felly, yr wyf yn eu cyfrif yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg. Cyfieithiad yw'r Beibl ei hun, ac ymha wlad bynnag y mae cyfieithiad gwych ohono, y mae'r genedl yno yn ei gyfrif yn un o'i chlasuron ei hun.
Rhag cymysgu ynghyd lyfrau annhebyg i'w gilydd, mi a ddosbarthaf lenyddiaeth grefyddol y Cymry yn llenyddiaeth ddefosiynol, yn llenyddiaeth athrawiaethol, ac yn llenyddiaeth hanesyddol, sef yn llenyddiaeth y mae a wnelo hi â hanes crefydd. Mewn llenyddiaeth ddefosiynol, rhaid addef ein bod yn dra chyfoethog; canys y mae pob llyfr a gyfrifir yn glasurol yn y dosbarth hwn, oddieithr Cyffesiadau Awstin, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, a hynny gan ein llenorion gorau. Gan Gatholigion y cyfansoddwyd y rhai enwocaf ohonynt; ond Protestaniaid pybyr a'u cyfieithodd oll, oddieithr un; yr hyn sy'n profi bod y dynion mwyaf duwiolfrydig ymhob cyfundeb yn ddynion