Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trenged y Gymraeg gyda'r genhedlaeth hon. Er y bûm i, trwy eiriau teg a geiriau tost, yn annog y Cymry i lynu wrth eu hiaith, pan oedd agos pawb o'r rhai a dybid eu bod yn benaethiaid y bobl yn proffwydo—ie, yn dymuno—ei thranc buan, eto nid euthum yn rhy ragfarnllyd i addef y buasai'n well gennyf, o'r ddau, weled fy nghydwladwyr yn arfer Saesneg gwych na Chymraeg gwael. Ac nid wyf chwaith yn rhy ragfarnllyd i addef yr awr hon eto, mai yn nhŷ ei charedigion yr archollwyd ac y llurguniwyd yr hen Gymraeg mor echryslon. Pan amlhaodd yr ymbleidiau crefyddol yng Nghymru, yr oedd yn rhaid iddynt gael rhyw fath o gewri i'w harwain i ryfel yn erbyn ei gilydd. Ac yn y dyddiau hynny, cawr y gelwid pob corrach a safai dipyn yn uwch, ac a allai ddifenwi'n fwy haerllug na'i gyd—gorachod. Am hynny y cynhyrfwyd llawer o lafurwyr annysgedig gan ryw ysbryd neu'i gilydd i droi eu pladuriau yn gyllellau papur, a'u sychau yn binnau ysgrifennu. "Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer," ebe Paul; felly, yr un modd, pan ymwthiodd gofaint a chryddion, seiri maen, seiri coed, a seiri clobos Ymneilltuol i gadeiriau hen Gymreigwyr trylen Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain y dechreuwyd gwneud i'r Gymraeg y drwg sydd