Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthynt eu hunain, dylent drugarhau wrth eraill. Hybarch beriglor marchog penchwiban La Mancha, a fynnit ti losgi eu hysgrifeniadau i gyd? I gyd, i gyd, a chwaneg hefyd.

Y mae rhai, nad ydynt na Solomoniaid na Miltwniaid, cystal â dweud fel esgus fod y Gymraeg yn iaith rhy dlawd i arddangos y meddyliau mawreddig a'r teimladau dyfnion sy'n ymweithio ynddynt hwy, a bod yn rhaid iddynt gan hynny, er mwyn cyfrannu eu cyfoeth i'r byd, fenthyca lliaws o eiriau a phriodebion Saesneg. O! druain; y chwi sy'n dlawd. Y mae'r Gymraeg mor oludog o eiriau ac ymadroddion fel mai dewis ac nid dyfeisio ydyw anhawstra mawr y rhai sy'n ei medru. Tybed eich bod mor fawr ag yr ydych chwi eich hunain yn meddwl eich bod? Ie, tybed eich bod mor fach ag y mae eraill yn meddwl eich bod? Credu yr ydwyf i mai diogi a diofalwch ydyw eich beiau pennaf. Pan fyddwch yn troi rhywbeth o'r Gymraeg i'r Saesneg, byddwch yn ymdrafferthu i chwilio Gramadegau a Geiriaduron a Mynegiaduron; a chywilyddus fyddai gennych droi "ar ei ben ei hun" yn on his own head. Ond yr ydych yn tybied ei bod yn rhydd ichwi wneud fel y mynnoch â'ch iaith briod, fel y dengys yr enghreifftiau a roddaf ymhellach ymlaen.