Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd hwn yn elyn i'r brenin, yr offeiriad, a'r uchelwr, yn derbyn y Chwyldro, ac yn ei gymhwyso yn ei ddull ei hun, yn eiddigus o'i ryddid personol newydd, ac ar yr un pryd yn ei gydnabod nid yn unig fel peth perthynol iddo ef ei hun, ond fel cyfran o'r fendith wladol. Yn ôl Thibaudet, bu'n rhaid i lywodraethau'r ganrif, er eu holl amrywiaeth lliw, gydnabod y teip hwn, ei ddenu, ei ddefnyddio, a'i wasanaethu, a hwn o'r diwedd a ddaeth yn ben gyda'r Drydedd Weriniaeth.

Courier a luniodd eiriau mwyaf bachog a phendant y bobl hyn. Yr oedd ei gyfryngau llenyddol o fewn cylch eu diddordeb, ie, a'u brwdfrydedd hefyd. Yr oedd yn gymaint gŵr pros â M. Jourdain. Y llythyr cyhoeddus a'r pamffled oedd ei fynegiant a'i offeryn. Dysgodd symbylu dynion trwy eu difyrru ar draul gwrth wynebwyr. Y mae ei waith yn olau inni ar ei gymdeithas a'i gwleidyddiaeth, ac yn ddatguddiad o dymer ei hysbryd a'i meddwl. Mân—feddianwyr oedd ei "bobl," a hwy'n eiddigus o'r meddiant a'r rhyddid a ddaeth iddynt trwy'r Chwyldro, ac yn benderfynol i lynu wrth y ddeubeth fel gelen. Chwyrnent yn erbyn pawb a phopeth a fygythiai'r enillion hyn, sef yn erbyn y brenin, yr offeiriad,