Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/148

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Tystiodd ei bod mewn ofn corfforol," yn lle fod arni ofn am ei hoedl.

"Nid oedd ei resymau'n gwneud dim argraff arnynt," yn lle yn mennu dim arnynt.

"Ni allant ddal allan yn hir eto," yn lle Ni allant wrthsefyll, etc.

"Ac felly y ffurfiodd ef gydnabyddiaeth â hi," yn lle yr ymgydnabu ef â hi.

"Ond wrth bregethu yr oedd ef gartref," yn lle y byddai ef yn ei elfen.

"Y mae'r ddihareb yn dal," yn lle Y mae'r ddihareb yn parhau'n wir, neu . . . cyn wired heddiw ag erioed.

"Os cymerwch chwi'r peth mewn llaw," yn lle Os ymgymerwch chwi â'r peth, neu Os ewch chwi ynghyd â'r peth.

"Yn bresennol, gorffwys arnom i ddymuno i'n holl ddarllenwyr, Blwyddyn newydd dda," yn lle Bellach, y mae'n wiw inni ddymuno i holl ddarllenwyr y *** flwyddyn newydd dda.

Gobeithio bod y nef drugarog wedi gwrando gweddi'r gwael" hwn, er mwyn cael o'r darllenwyr amser i edifarhau am dreulio cymaint o'r blynyddoedd o'r blaen i ddarllen ei Gymraeg sitrachog. Er hynny, pe buasai ganddynt hwy