Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr uchelwr, y trethwr, a'r swyddog. Eu prif chwyrnwr oedd Courier. Adnodau wrth fodd ei galon, gellid meddwl, oedd y rheini gan y proffwyd Micah am yr holl bobloedd yn rhodio "bob un yn enw ei dduw ei hun," ac amdanynt yn eistedd "bob un dan ei winwydden heb neb i'w dychrynu." Er y gofal a gymerai Courier o'i arddull, na feddylied neb nad oedd ganddo sylwedd, a neges bendant, ac y mae argraff o'r dyn yn gryfach hyd yn oed nag o'i waith.

Eto yr oedd ganddo ef arddull yn anad neb hyd yn oed yn Ffrainc. Nid anodd deall hyn os cywir y deffiniad a rydd Emrys inni o arddull, sef yr argraff neilltuol honno y mae awdur yn ei gosod ar yr iaith gyffredin." Yr oedd Courier yn feistr ar Roeg. Darllenai hi o chwaeth, ac nid i ateb anghenion galwedigaeth. Chwaeth a chariad yn unig a'i cadwai wrthi. Yr oedd mireinder ei Ffrangeg yn ffrwyth gofal ac astudiaeth feunyddiol o'r ddwy iaith. Rhoddai hyn loywder i'w eiriau am fod ei ddysg yn llwyr yng ngwasanaeth ei ddawn. Yn y blaenllymu a welir ar ei frawddegau yr oedd rhywbeth a gâi o'i gyfathrach agos â'i "bobl," ac yr oedd yno gaboli hefyd yn llathru â rhyw ddieithrwch ysblennydd. Parchai ei bobl, a pharchai hefyd ysgolheictod prin.