Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PAUL-LOUIS COURIER

Y mae'r cyfeiriadau a wneuthum yn fy llith o'r blaen[1] at y ddau lenor Ffrengig y mae G. P. Marsh yn eu cyfrif "by far the greatest stylists of modern times" wedi gwneud rhai o ddarllenwyr "Y GENINEN" yn awyddus i wybod chwaneg am y mwyaf anhysbys o'r ddau. Wrth ymosod i foddhau'r darllenwyr hynny, yr oeddwn yn bwriadu rhoi syniad iddynt am arddull ddigyffelyb Paul-Louis Courier; ond yr wyf wedi fy siomi fy hun yn hollol yn hyn o beth. Er fy mod i, yn gystal o ddiffyg dawn ag o ddiffyg ymarferiad, yn waelach cyfieithydd o lawer na Morus Kyffin, Edward James, a Charles Edwards, eto y mae'n amheus gennyf a allasai'r mwyaf cyfarwydd â'r gwaith hwn ddangos pranciau nwyfus arddull Courier, a chadw gwedd Gymraeg ar ei gyfieithiad ar yr un pryd. Ysywaeth, y rhan ymadrodd mwyaf cryno yn y Ffrangeg yw'r un mwyaf amgylchog yn y Gymraeg. Cyfeirio yr wyf yn awr at y cyfraniad gorffennol (past participle). Rhaid yw arfer dau neu dri neu chwaneg o eiriau Cymraeg i gyfieithu'r cyfraniad gorffennol Ffrangeg. Weithiau gwna un gair Saesneg y tro

  1. Gweler tud. 53 a 100. Cyfeirio y mae at yr ail.—Gol.