Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu Napoleon yn eilun i Courier, eto yr oedd yn gas ganddo filwriaeth. Nid yw mor anodd deall hyn mewn gwlad lle y deellir nad milwr yn unig oedd Napoleon. Beth bynnag, rhoes Courier heibio ei alwedigaeth filwrol, a'i orchest bennaf mewn perthynas â hi fu ei gyfieithiad o Xenophon. Trosodd bethau eraill hefyd o Roeg i Ffrangeg fel rhan o'i ddisgyblaeth lenyddol, sef ei ymgymhwysiad at allu creu mireinder Groegaidd ei naws yn y Ffrangeg. Yr oedd yn etifedd ac yn llafuriwr dygn mewn dwy ystad, a gwiw oedd ganddo ei holl etifeddiaeth lenyddol, a gynhwysai olewydd Groeg a gardd Ffrangeg. Fe'i ystyriai ei hun fel garddwr a gwinllannwr iaith ei genedl. Ni phoenai ar ôl a oedd aruchel, mawreddog, na barddonol, ond yn hytrach fe roes ei fryd ar sgrifennu'n glir, yn lluniaidd, ac yn gywrain. Nid oedd neb mwy byw ei gydwybod lenyddol, a gwaradwydd iddo fyddai gwrthod dysg. Am hynny y dysgodd lunio llythyr gan Mme. de Sevigné, a phamffled gan yr enaid aflonydd hwnnw, sef Blaise Pascal.

Yr oedd syniadau tra gwahanol ar led yn Ffrainc ac yn Ewrop o oes y Chwyldro ymlaen am natur gwaith llenor a'i werth. Wedi'r sylw a roddwyd i Gyffesion Rousseau, cafwyd llawer i ddewis yr un llwybr. Nid oedd mwyach yr un