Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer o bendefigion ei wlad ef; er hynny, y mae ef yn gwbl foddlon ar ei ran; ac yn y cymes (mediocrite) hyfryd hwn yr oedd yn byw, pan ddarfu i weinyddion y wladwriaeth, wrth weled ei fod yn ddyn hylaw, hynaws, ei annog i fyned i'r senedd. Gyda'i fod yno, dechreuodd daranu a stormio yn erbyn treuliau'r llys, y llwgr a'r segurswyddau. Tybiwyd mai eisiau ei ran ohonynt oedd arno; ac am hynny cynigiodd y gweinyddion iddo le, yr hwn a gymerodd yntau; a rhoesant iddo swm cyfatebol i'w olud, yn ôl arfer llywodraethwyr o roddi mwy i'r neb y bo mwy ganddo. Cyn gynted ag y cafodd ef yr arian, dychwelodd i'w etifeddiaeth; a chynullodd ato'r llafurwyr a'r tyddynwyr a holl amaethwyr y sir, a dywedodd wrthynt: Cefais afael yn ffodus iawn ar gyfran o'r hyn yr ydys yn ei ddwyn oddi arnoch i gadw chwiwgwn a diogod y llys. Dyma'r arian, ac yr wyf ar fedr eu hadferu yn anrhydeddus. Dechreuwn hagen hefo'r rhai tlotaf. Tydi, Pedr, pa faint a delaist y flwyddyn hon? Cymaint â hynny, dyma hwy. Tydi, Paul; chwychwi, Isag ac Ieuan, pa faint yw'ch dogn?" Wedi iddo gyfrif yr arian a rhannu'r cwbl, dychwelodd i Lundain, a chan feddiannu ei swydd newydd, ymosododd yn gyntaf dim i ryddhau pob dyn ar a oedd mewn dalfa am ddywedyd gormod o'r caswir yn erbyn y mawrion a'r gweinyddion; a hynny a wnaethai