Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwys ar fodelau mewn llenyddiaeth, na'r un parch at ddysg a thraddodiad. Yr oedd y gwerthoedd a fynnid mwyach yn gyfan ym mhersonoliaeth gysegredig yr unigolyn. Hunan—fynegiant oedd llenyddiaeth felly, ac fe gafwyd digonedd ohono am flynyddoedd hir. Yn naturiol felly, barddoniaeth, a thelyneg yn anad unffurf arall, oedd priod gyfrwng yr oes. Ychydig, a heb fod yn ffafriol iddo, yw cyfeiriadau Emrys ap Iwan at Jean-Jacques Rousseau, ac nid yw byth yn cymaint â sôn am nemor un o feirdd a llenorion "llwyddiannus" ei ganrif yn Ffrainc. Awgrymwyd yn ddiweddar ei fod wedi ffoli ar lenyddiaeth Ffrainc. Camddeall o'r mwyaf yw hynny. Diystyrodd agos holl lenyddiaeth y wlad honno yn ei ddydd ac yn ôl hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, ag eithrio gwaith yr un llenor a ddewisodd fel athro. Dewisodd yn gwbl bwyllog; nid yn ddall, ond yn unol â'r canonau a barchodd trwy gydol ei oes.

Gwelir y bwysicaf o'r canonau hyn yn nhraethawd Emrys ar Gymraeg y Pregethwr:

I'r rhai y mae ganddynt arddull, y ffordd orau y gwn i amdani i wellhau'r arddull hwnnw ydyw mynnu'n gyntaf oll lyfrau'n cynnwys enghreifftiau o waith pob awdur enwog ym mhob iaith a fyddo'n hysbys iddynt, ac yna darllen yn ddyfal weithoedd yr awdur y byddo'i