hen edliwiad arferol y sawl na bo'r chwarddwyr o'u tu. Pa beth a fu? Gwnaeth cellwair, gwnaeth gwatwar miniog Pascal yr hyn ni allodd deddfau a dedfrydau, gwnaeth i'r Iesuaid ffoi yn archolledig o bob man. Er ysgafned y dalennau hynny, llethasant y corff cryf hwn. Darfu i bamffledwr, dan chwarae, ddymchwelyd y ddelw fawr hon, a arswydid gan frenhinoedd a phobloedd. Ni chyfyd mwyach y Gymdeithas syrthiedig, pa faint bynnag a ateger arni; ac erys Pascal yn fawr yng nghoffadwriaeth dynion, nid oblegid ei weithoedd dysgedig, ei drogyrfen (roulette), ei brofiadau, eithr oblegid ei bamffledau, ei fân lythyrau.
Nid y Tuscalanodau a enwogodd Ciceron, eithr ei areithiau, gwir bamffledau. Ymddangosasant yn ddalennau hedol, heb eu rholio o amgylch ffon, yn ôl yr arfer y pryd hwnnw, gan na thraethwyd mo'r rhan fwyaf a'r rhai gwychaf ohonynt. Pa beth oedd ei Caton amgen na phamffled yn erbyn Cesar, yr hwn a atebwyd yn ddiau yn dda iawn, fel ag y medrai ef, ac fel dyn deallus, teilwng i gael ei wrando hyd yn oed ar ôl Ciceron. Yn ddiweddarach dreliwyd un arall mewn dalen arall, a chan ei fod yn ŵr ffyrnig, a heb feddu sgrifell Cesar na'i gleddyf chwaith, atebodd hwnnw'r pamffledwr Rhufeinig trwy orchymyn ei ladd. Esgymuno, erlid, dyna'r daledigaeth gyffredin i'r neb a feiddio ddywedyd ei hun y peth a synio pawb.