Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arddull yn debycaf i'w harddull amherffeithiach hwy eu hunain. Wrth gymryd y cyfryw un yn gynllun, nid dynwared rhywun arall y byddant, ond datblygu eu dawn eu hunain. Pan fyddo'r awdur a ddewiser yn gynllun yn pallu mewn rhywbeth gwerthfawr, fe ddylai'r darllenwr ar yr un pryd ddarllen gwaith rhyw awdur arall a fyddo'n rhagori yn y peth hwnnw. Hyn a geidw'r disgybl rhag mynd yn gaethwas i'w athro.

Ei brif gynllun ef oedd Paul-Louis Courier. Gwelodd ei frawd-enaid yn y Ffrancwr hwn, a meithrinodd ei ddoniau cynhenid ei hun trwy arddel a mawrhau'r berthynas. Yr oedd yr un syniad o ryddid gan y ddau, yr un aflonyddwch yn erbyn llyffetheiriau "swyddogol" mewn byd ac eglwys, ynghyd â'r un parch dwfn at y "bobl," ac at dreftadaeth ysbrydol. Ymdrechai'r ddau gaboli eu hiaith. Ymserchent ynddi, a pharchent hi. Yn ei berthynas ei hun â'i athro, Groeg Emrys oedd y Ffrangeg, a'i Ffrangeg oedd y Gymraeg. Gwelai Emrys hefyd fireinder mewn eiliaith; yr oedd arno flys am ei ail greu yn ei famiaith; gwyddai am adnoddau diderfyn i'w darganfod yn iaith y bobl; a pharchai hefyd ddysg ac arweiniad coeth cynfeistri llenyddiaeth ei wlad. Ei Mme. de Sevigné a'i Blaise Pascal oedd awduron y