Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/180

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny. Fel yr wyf yn anrhydeddu'r gweithoedd mawr a wnaed i barhau am oesoedd, felly yr wyf yn dirmygu ac yn ffieiddio'r mân ysgrifau byrhoedlog, y papurau sy'n myned o law i law, ac yn llefaru wrth bobl y pryd hwn am bethau'r pryd hwn. Ni allaf oddef pamffledau.'

Ac eto y mae'n hoff gennych y Provinciales—y mân lythyrau fel y'u gelwid gynt pan oeddynt yn hedeg o law i law?'

‘Yn wir (meddai yntau ymhellach, heb gymryd arno fy nghlywed), y mae'n syn gennyf eich bod chwi, sy'n ddyn addysgedig, ac wedi'ch arfaethu i fod yn rhywbeth yn y byd, yn ymddarostwng i wneuthur pamffledau! Pe baech yn gyfrifwr, yn geidwad carchar, neu yn gendarme, cyrhaeddech sefyllfa anrhydeddus; canys pwy a'ch lluddiai i fyned, yn y man, yn farwn, fel rhywun arall?'

'Nid oedd Blaise Pascal (meddwn innau) nac yn geidwad carchar, nac yn geidwad trefn, nac yn swyddog i Meistr Franchet.

Ust! Lleferwch yn is, canys gall ef ein clywed.' 'Pwy?'

"Yr abad Franchet.'

Ai tybed ei fod mor agos atom?'

'Syr, y mae ef ym mhob man. Dyma bedwar ar gloch; eich ufudd was.'