Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Clasuron Cymraeg." Cyflenwai ei addysg a'i gymreictod yn ysgol pob un ohonynt.

Gwaith difyr ac nid dibwys fyddai olrhain ymhellach fyth y tebygrwydd rhwng y disgybl a'r prifathro. Fe'i gwelir yn eu hagwedd ddeublyg at filwriaeth, sef eu casineb at yr erchylltod ynghyd â'u blas at olrhain a chroniclo campau'r drin. Sur la Cavalerie Emrys yw "O Elba i Waterloo." Gan Courier hefyd yn ddiau y dysgodd ef ei edmygedd o Napoleon. Nid hynny'n unig, ond peth pwysicach o lawer. Fel yr oedd Rousseau yn gweld iechyd cymdeithas yn tarddu o fywyd dyfnaf a mwyaf mewnol y dyn unigol, fe'i câi Courier ym mywyd ac ymgyfathrach feunyddiol a disylw'r "bobl" fel y cyfryw, ac yn arbennig ym mywyd ei briod genedl. Dyna achos ei gasineb at ymyrraeth y llywodraeth a'r eglwys â'r bywyd beunyddiol hwn. Yn hyn yr oedd ef yn wir blentyn y Chwyldro. Croesawyd dysgeidiaeth y Chwyldro ynglŷn â bywyd cenedl yn Iwerddon cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yng Nghymru yr adeg honno, agwedd arall o'r ddysgeidiaeth newydd yn unig a dderbyniwyd, sef ynglŷn â "breintiau cynhenid dyn." Emrys ap Iwan, trwy arweiniad Courier, oedd y cyntaf i dderbyn neges genedlaethol y Chwyldro Ffrengig fel Cymro. Gwelwyd yn