fyddont yn gwneuthur dyletswyddau crefyddol. Ni byddant byth yn siarad â gŵr ieuanc yn unlle, nac yn myned yn fynych i gymdeithas; yn gwisgo yn syml; ni chânt ddarllen dim llyfrau ond a rydd eu rhieni iddynt. Er hyn oll y maent yn dra siriol, ac yn teimlo'r iau yn esmwyth am eu bod wedi eu cynefino â hi. Yn y wlad hon y mae merched yn colli eu rhyddid wrth ymbriodi. Yn Ffrainc ei ennill y maent. Yn y dosbarth cyffredin, nid oes fawr mwy o bellter rhwng y ddeuryw nag sydd yn y wlad hon. Er hynny, cariad masnachol iawn yw cariad y ferch tuag at y mab. Am hynny, ei harfer hi ydyw oedi ac oedi diwrnod y priodi er mwyn rhoi cyfle i ryw garwr amgenach ymgynnig iddi. Pe dywedech wrth Ffrances fod caru o'r fath yma yn garu gwael, atebai hithau fod caru ar brawf yn well na charu dall, a bod yn deg iddi fel y person goddefol garu pob dyn ar ei thelerau ei hun.
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/193
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O LAWYSGRIF.