Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DETHOLION

Canfydda, cyfarfyddais, adnabyddodd, darganfyddasom, etc. Ymha le y cawsoch o hyd i'r ffurfiau anferth yna—ai yn y Beibl, bregethwyr? ai yn y Gweledigaethau neu yn Hanes y Ffydd, ohebwyr? Prin y gallaf ddisgwyl i lawer ohonoch roi sylltyn am Ramadeg; llawer llai i gynilo ychydig o amser

I roi i lawr eiriau lu,
Deg mil, a'u digymalu;
Profi gwreiddyn y prifair,
Olrhain yn gywrain y gair;
Ceisio'n ddiball, dyall da
Ddwys ganfod ei ddisgynfa;
Caru, coledd cywirwaith,
Tlysau agoriadau'r iaith.

Na: y mae'ch gwaith yn arfer y ffurfiau a roddwyd yn profi ei bod yn ormod gan y rhan fwyaf ohonoch roi pum munud o'ch oes i ddysgu treiglo'r prifair bod; canys pum munud fyddai'n ddigon i'r dylaf ohonoch. Ond y mae'n rhesymol imi ddisgwyl i bob un ohonoch ddarllen yr Ysgrythur Lân—yn enwedig chwychwi'r pregeth-