Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'n gwrandawyr feddwl nad ŷm yn hyddysg yn y Saesneg, ac na buom erioed mewn athrofa'n dysgu egwyddorion Groeg a Lladin. Yn sicr, ni fynnech ein gweled ni, blant y colegau, ac etifeddion y B.A., yr M.A., y Ph.D., a'r D.D., yn ymostwng i bregethu yn arddull Feiblaidd Daniel Rowlands, ac eraill o bregethwyr amseroedd yr anwybodaeth'!"

Wel, mi welaf eich bod yn rhy gall i fod yn ddoeth, yn rhy gyfrwys i fod yn gydwybodus, ac yn rhy grachddysgedig i fod yn ddysgadwy; ond cyn ysgwyd y llwch oddi wrth fy esgidiau, gwnaf un ymdrech yn rhagor i gael gennych ddysgu'r prifair bod, mewn un neu ddau o'r amserau, ac yna byddaf yn lân oddi wrth eich gwaed.

Yr Amser Gorffennol

Bûm, Buost, Bu.
Buom, Buoch, Buont (neu Buant).

Yr Amser Tragorffennol

Buaswn, Buasud (neu-it), Buasai.
Buasem, Buasech, Buasent.

Yr un ffunud y dylid treiglo bod pan fyddo'n rhan ôl gair cyfansawdd. Felly, dyma'r ffurfiau a ddylid eu harfer yn lle'r rhai sydd yn nechrau'r paragraff—cenfydd, cyfarfüm, adnabu, darganfuom (neu darganfuasom), etc.