Gymraeg eglur, ystwyth, a llawn amrywiaeth, ac oblegid hynny gwyddai paham a pha fodd y mae'r arddull yr hyn yw'r dyn. Eglurodd hynny hefyd yn ei ymdriniaeth ag arddull Edward James yn ei gymhariaeth wych rhwng trefnu brawddeg a threfnu byddin. Daeth ag ysbryd a disgyblaeth rhetoric yn ôl i iaith oedd yn colli pob graen a gofal, fel y gwelir yn amlwg yn niweddglo'r ddau draethawd cyntaf yn y casgliad hwn.
Y mae mwy nag un ffordd o ymgyrraedd at burdeb iaith. Un ffordd yw arfer y gair diddosben am het. Nid dyna ffordd Emrys. Iddo ef, daw purdeb ymadrodd yn gyntaf, yna purdeb geiriau, ac yna purdeb sain. Nid oedd yr un o'r rhain yn ddistadl yn ei olwg, ond ni châi'r llai ei le o flaen y mwy, am fod gan Emrys drefn a chymesuredd. Gan fod llun yn fwy ganddo na lliw, yr oedd purdeb ymadrodd yn sicr o'r blaen. Dyna pam y dyfal chwynnai briodebion Saesneg o'r iaith. Y mae poeni ar ôl geiriau ar draul ymadroddion yn ein harwain yn y pen draw i siarad fel y gŵr pwysig hwnnw a anogai ddynion i "beidio â rhoddi'r arddangosfa ymaith." Un arall o sylwadau cyfoethog Emrys ar arddull yw bod "geiriau'n ymgaboli yn ôl deddfau cyffredinol, ac yn ymlygru oherwydd mympwyon neilltuol." Hynny yw, y