Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"bobl" a ŵyr, trwy eu bywyd beunyddiol a'i dreigliad oesol.

Yn yr ymchwil am gywirdeb mewn iaith ac arddull, fe rydd Emrys le i hanes (gan gynnwys arfer gwlad) ac i reswm. Y mae'n sicr o fod yn iawn yn ei farn gyffredinol ar hyn o beth, fel mewn llawer cymhwysiad o'r egwyddor. Eto gellir amau a gadwodd ef y fantol yn gywir bob amser rhwng y ddau, sef rhwng hawliau hanes neu arferiad cyffredinol ar y naill law, a rhesymiad yr unigolyn ar y llaw arall. Er enghraifft, ystyrier ei gyngor ynglŷn â llunio geiriau newyddion yn yr iaith Gymraeg. Gwyddai am ddeddfau tyfiant geiriau Cymraeg o Ladin a Groeg, ond nid yw bob amser yn cofio mai deddfau tyfiant ydynt, ac nid dyfais beiriannol. Y mae'n awgrymu y gellir eu cymhwyso pryd y mynner i lunio'r gair a fynner. Dylid cofio mai deddfau ydynt a weithiodd tros gyfnod o flynyddoedd arbennig ac yna peidio. Weithiau'n ddiau fe ellir eu hail arfer yn hwylus i lunio gair newydd megis ffosfor, ffenomen, &c. Ond nid yw hyn yn dal bob amser, fel y gwelir oddi wrth y gair rhyfedd cris a luniodd Emrys i olygu cyfyngder. Y mae rhyw synnwyr anneffiniol yn penderfynu trosom a ellir derbyn gair gwneuthur yn "gyflawn aelod" o'r iaith. Bu Emrys yn chwarae cryn dipyn