Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd gyda rhagenwau a geirynnau rhagferfol, ond gydag aeddfedrwydd blynyddoedd fe roddodd heibio lawer o'r mân driciau hyn. Eto, wrth ymgodymu â'r iaith yn ei ffordd ei hun, ynghyd â thrwy ei hastudio yng ngorchestion eraill, fe'i hystwythodd, ac amlhau ei hadnoddau.

Y mae'r detholiad hwn yn cynnwys traethodau a chyfraniadau eraill ar iaith, arddull, a llenyddiaeth Gymraeg, ar Paul-Louis Courier, ynghyd âg ar ambell bwnc perthynasol arall. Fe godwyd peth o'r defnydd yn syth o lawysgrifau Emrys ei hun, ond yng ngholofnau'r Faner a'r Geninen y cafwyd rhan fwyaf. Diweddarwyd yr orgraff a chymhwyswyd ychydig ar fanion iaith yn yr un modd ag a wnaed yn y gyfrol flaenorol. Unwaith eto y mae diolch yn ddyledus i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei garedigrwydd yn darllen y proflenni, i Mr. Prosser Rhys eto am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Dymunaf ddiolch yn fawr hefyd i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg rhai o lawysgrifau Emrys ap Iwan, a chael copïo ohonynt ar gyfer y gyfrol hon. Manteisiwyd yn fawr hefyd ar adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ionawr, 1939. D. MYRDDIN LLOYD.[1]

  1. Bu farw Emrys ap Iwan ym 1906, gan hynny mae ei holl waith ymhell allan o hawlfraint. Yn wir, gan fod deddfau hawlfraint Cymru a Lloegr yn perthyn i lyfrau yn unig, ac nid erthyglau mewn papurau newyddion a chylchgronau, hyd ddechrau'r 20G ni chafodd y mwyafrif o’r erthyglau sydd yn y cyfrolau byth eu hamddiffyn gan hawlfraint.
    Gan fu farw David Myrddin Lloyd, awdur y rhagymadroddion i'r tair cyfrol yng Nghyfres Erthyglau Emrys ap Iwan, ym 1981, bydd ei weithiau ef, gan gynnwys y rhagymadroddion hyn, o dan hawlfraint hyd 2052.
    Cyhoeddwyd y gyfrolau dros 80 mlynedd yn ôl. Daeth y cyhoeddwr, Y Clwb Llyfrau Cymreig, i ben ei daith dros 80 mlynedd yn ôl, gan hynny mae pob dim ond yr ychydig tudalennau o ragymadrodd yn sicr yn y parth cyhoeddus. Bernir mae defnydd teg yw dyfynnu yr ychydig dudalennau o ragymadrodd gyda gweddill corff y llyfrau sydd bellach allan o hawlfraint.