Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y CLASURON CYMRAEG

(A DRADDODWYD I GYMDEITHAS GENEDLAETHOL GYMREIG LLYNLLEIFIAD, TACHWEDD 15, 1893)

Y mae testun fy sylwadau hytrach yn fyr nag yn fanwl; canys y mae'n hysbys i ysgrifennydd llafurus y Gymdeithas, os nad i eraill hefyd, nad wyf i ddim yn bwriadu bwrw golwg ar holl brif awduron Cymru, ond yn unig ar brif awduron a chyfieithwyr y ddwy oes o'r blaen, sef yr eilfed a'r drydedd ar bymtheg, y rhai, a siarad yn grwn, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng y Diwygiad Protestannaidd a'r Diwygiad Methodistaidd. Er hynny, y mae'r testun braidd yn gamarweiniol hyd yn oed fel y mae o ar y cerdyn, canys pe dywedid mai'r ysgrifenwyr cymhwysaf i'r cyffredin eu cymryd yn gynlluniau ydyw'r clasuron Cymraeg, yna yn y ddwy oes o'r blaen, yn anad un cyfnod arall, y ceir hwynt. Wrth gyfeirio'ch sylw at lenorion pennaf y cyfnod hwnnw, amcanu yr ydwyf gyffroi aelodau ieuangaf eich cymdeithas i ymgydnabod mwy â'r ysgrifenwyr mwyaf Cymreigaidd eu hiaith a'u hysbryd. Fe fuasai mwy o unoliaeth yn fy sylwadau pe buaswn yn traethu am